Mae Abi yn 4 oed ac yn Fyddar. Roedd hi’n sâl iawn ychydig cyn iddi droi’n 2 oed a cholli ei chlyw bryd hynny. Mae ei phen yn gryf ac mae’n hoff iawn o fod yn fos.
Mae hi wrth ei bodd yn nofio a rhedeg. Yn fwy na hyn mae hi wrth ei bodd yn rasio. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn darlunio a lliwio. Mae ei henw arwydd yr un peth â’r arwydd ar gyfer artist.
Mae hi’n hoffi darlunio’r lleoedd yr hoffai fynd ac ymweld â nhw, neu’r bobl a’r anifeiliaid yr hoffai eu cyfarfod.
Weithiau mae hi’n hoffi chwarae triciau a bod yn ddireidus iawn ar adegau.
Mae hi’n caru ei chwaer fawr Catrin.
Catrin
CMae Catrin yn 9 oed ac wrth ei bodd yn darllen ac adrodd straeon. Mae hi hefyd yn hoffi bod yn chwaer fawr.
Mae Catrin yn aml yn adrodd straeon ffantastig i Abi. Mae’n adrodd hanesion am anturiaethau sy’n helpu i greu’r bydoedd a’r ffordd y maent yn chwarae gyda’i gilydd.
Mae ei henw arwydd yr un peth ag arwydd cath.
Mae Catrin yn meddwl bod Abi yn ddoniol iawn, ond nid yw bob amser yn hoffi pan fydd yn chwarae triciau arni hi neu bobl eraill.
Mae hi wrth ei bodd yn canu ac yn arwyddo canu gyda’i chwaer fach.
Ruby
Mae Ruby wedi bod yn ffrind gorau i Abi ers iddynt gyfarfod gyntaf yn y feithrinfa.
Mae’n dysgu iaith arwyddion gan Abi sy’n eu helpu i ddeall ei gilydd.
Pero
Pero yw Ci Clyw Abi. Mae wedi’i hyfforddi’n arbennig i helpu Abi i wneud pethau.
Pan fydd Abi yn cysgu ac yn breuddwydio, mae Pero yn dod yn fath gwahanol iawn o gi gyda hyd yn oed mwy o sgiliau arbennig, a galluoedd hudol.
JamJam Boflacs
JamJam yw tedi Abi. Roedd yn arfer bod yn perthyn i’w thad pan oedd yn fach, ac fe’i rhoddwyd iddi gan Catrin pan aeth hi’n rhy fawr i chwarae ag ef.
Osian
Mae Osian yn un o ffrindiau gorau Catrin, ac mae’n byw drws nesaf i’r chwiorydd.
Mae’n hoffi chwarae a gwneud chwaraeon ac yn aml mae Abi yn ei herio i rasys a gemau.
Esmey
Miss Dawn
Edward
Miss Molly
Sergeant Sian
Constable Marc
Tim Ysgol Catrin ac Abi
Ydy Tîm Ysgol Catrin ac Abi wedi bod i’ch ysgol chi?